Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:34 - 10:58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lesley Griffiths, Minister for Health and Social Services Walker, Head of Capital, Estates and Facilities Andrea Nicholas-Jones, Head of Older People Strategy Alison Strode, Therapy Adviser for Wales Lisa Dunsford, Deputy Director - Primary Care |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhodri Wyn Jones (Dirprwy Glerc) Andrew Minnis |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins. Roedd Rhodri Glyn Thomas yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East
Diolchodd y Cadeirydd i’r tîm clercio am brosesu’r ddeiseb yn gyflym.
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl am ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy;
i ysgrifennu at Dŵr Cymru Welsh
Water.
2.2P-04-345 Cysylltiadau bws a rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
Cytunodd y Pwyllgor i ddisgwyl ymatebion gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac i ddisgwyl ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn dod i ben ar 6 Ionawr 2012.
2.3P-04-346 Gofal plant di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chomisiynydd
Plant Cymru, i holi eu barn am y mater; ac
i gyhoeddi ymgynghoriad wedi’i dargedu.
2.4P-04-347 Adolygu eiddo ac asedau
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y
Tŷ;
i ysgrifennu at Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n
gyfrifol am yr ystâd a chyfleusterau’r Cynulliad.
2.5P-04-348 Targedau ailgylchu ar gyfer byrddau iechyd
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol;
i ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol i holi eu barn am y
mater.
2.6P-04-349 Darpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Caerffili
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.
2.7P-04-350 Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl ymateb gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau;
i holi barn yr holl bartneriaid, gan gynnwys cynghorwyr lleol ac
arweinwyr cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf; yr heddlu a’r
Byrddau Diogelu Lleol
i anfon copi o’r ohebiaeth hon at Aelodau Cynulliad yr
etholaeth a’r rhanbarth.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Cafwyd eglurhad nad cae Parc y Strade oedd testun y cais ‘Village Green’, fel y nodwyd yn yr adroddiad diweddaru, ond ardal yn ystâd ehangach Parc y Strade.
Cytunodd y Pwyllgor:
i ddisgwyl am ganlyniadau ymgynghoriad Cadw, a
ddisgwylir ym mis Ebrill 2012;
i ysgrifennu at y datblygwyr i holi eu barn.
3.2P-03-306 Achub Theatr y Barri
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.3P-04-335 Sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru
Cytunodd y Pwyllgor:
i anfon llythyr atgoffa at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
i holi ei farn am y ddeiseb;
y dylai’r tîm clercio lunio rhestr o wahoddedigion posibl i drafodaeth gyffredinol am y mater;
i ysgrifennu at gyrff chwaraeon nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr alwad am dystiolaeth i holi eu barn am y ddeiseb.
3.4P-03-313 Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cwn) (Cymru) 2011
Cytunodd y Pwyllgor:
i gadw’r ddeiseb yn agored nes y cyhoeddir y rheoliadau diwygiedig;
i hysbysu’r deisebwyr nad oes fawr mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, ond y bydd yn dychwelyd at y mater ar ôl i’r rheoliadau gael eu cyhoeddi.
3.5P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ceffyl, yn gofyn iddo ystyried y ddeiseb hon.
4. Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - sesiwn dystiolaeth lafar
Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew Walker, Pennaeth yr Is-adran Cyfalaf, Ystadau a
Chyfleusterau, Llywodraeth Cymru
Andrea Nicholas-Jones, Pennaeth Strategaeth ar gyfer Pobl
Hŷn,
Llwyodraeth Cymru (P-03-221 Gwell Triniaeth Traed drwy’r
Gwasanaeth Iechyd Gwladol)
Alison Stroud, Cynghorydd Therapi i Gymru (P-03-221 Gwell Triniaeth
Traed drwy’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)
Lisa Dunsford, Dirprwy Gyfarwyddwr – Gofal Sylfaenol,
(P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol)
4.1P-03-136 Parcio yn y Mynydd Bychan a Birchgrove
Datgannodd Joyce Watson fuddiant gan fod ei merch yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.
Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.
4.2P-03-221 Gwell triniaeth traed drwy'r GIG
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.
Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.
4.3P-03-222 Y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol
Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan y Pwyllgor ar y mater hwn.
Oherwydd cyfyngiadau amser, penderfynodd y Pwyllgor ystyried tystiolaeth y Gweinidog yn ei gyfarfod nesaf er mwyn gallu ystyried y dair deiseb yn llawn.
5. Papurau i'w nodi
Nodwyd bapurau ynghylch y deisebau a ganlyn.
5.1P-03-156 Dal Anadl wrth Gysgu
5.2P-03-205 Cadwch Farchnad Da Byw y Fenni
5.3P-03-144 Cwn Tywys y Deillion
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.